{"id":2282,"date":"2024-10-22T08:13:05","date_gmt":"2024-10-22T08:13:05","guid":{"rendered":"https:\/\/allin.online\/?p=2282"},"modified":"2025-04-08T13:20:13","modified_gmt":"2025-04-08T13:20:13","slug":"all-in-yn-croesawu-cyngor-celfyddydau-iwerddon-fel-partner-sefydlu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/blog\/all-in-yn-croesawu-cyngor-celfyddydau-iwerddon-fel-partner-sefydlu\/","title":{"rendered":"All In yn croesawu Cyngor Celfyddydau Iwerddon fel partner sefydlu"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-ace-content-blog flex content-content margins two-column bg_white\">\n<div class=\"wp-block-ace-content-blocks border-top\">\n<div class=\"wp-block-ace-intro content-intro\"><p>Byddwn ni yn All In, y cynllun mynediad sydd ar y gweill ar gyfer creadigrwydd a diwylliant, yn agor ein drysau i 1.1 miliwn* yn rhagor o bobl anabl yn Iwerddon. Mae Cyngor Celfyddydau Iwerddon yn ymuno fel un o bartneriaid sefydlu All In, sef cynllun sydd wedi ymrwymo i chwalu rhwystrau a gwella hygyrchedd ar gyfer pobl anabl, niwroamrywiol a B\/byddar. <\/p><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy ddileu rhwystrau <em>a <\/em>ffiniau, mae All In yn gobeithio rhoi cyfleoedd i bobl anabl brofi creadigrwydd a diwylliant yn y DU ac Iwerddon ac mae\u2019n nodi\u2019r cam cyntaf tuag at ehangu\u2019r cynllun sydd ar y gweill yn rhyngwladol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd <a href=\"https:\/\/www.artscouncil.ie\/home\/\">Cyngor Celfyddydau Iwerddon<\/a> yn cyfrannu \u20ac225,000 mewn cyfalaf tuag at ddatblygu\u2019r cynllun yn 2025, gan adeiladu ar y buddsoddiad presennol gan gynghorau celfyddydau\u2019r DU ac asiantaethau datblygu\u2019r celfyddydau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd All In yn cyflwyno safonau hygyrchedd cyntaf y DU ac Iwerddon ar gyfer creadigrwydd a diwylliant, law yn llaw \u00e2 darparu cymorth a datblygu sgiliau. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i bobl anabl rannu gofynion mynediad \u00e2 lleoliadau a threfnwyr digwyddiadau drwy system ddigidol ddiogel. Bydd y nodweddion hyn yn cael eu rhoi ar brawf wrth i All In baratoi i ddechrau ar ei gyfnod peilot, a gynhelir yn nes ymlaen eleni, cyn iddo gael ei gyflwyno\u2019n ehangach yn ystod 2025\/2026. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Andrew Miller, Hyrwyddwr Hygyrchedd y Celfyddydau yn y DU: \u201cMae All In yn falch iawn o groesawu Cyngor Celfyddydau Iwerddon fel un o\u2019r partneriaid sefydlu, ochr yn ochr \u00e2\u2019r asiantaethau datblygu a\u2019r pedwar cyngor celfyddydau yn y DU. Rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd ar gyfer pobl anabl, niwroamrywiol a B\/byddar, ble bynnag y b\u00f4nt, a\u2019r cyhoeddiad hwn yw\u2019r cam cyntaf yn ein taith ryngwladol gyffrous. Drwy ein partneriaeth ag Iwerddon, byddwn yn elwa o brofiadau bywyd a phrofiadau diwylliannol ychwanegol yn ein grwpiau cynghori, gan wneud yn si\u0175r bod pobl anabl o Iwerddon yn siapio twf cynllun a fydd yn croesawu pawb.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Maureen Kennelly, Cyfarwyddwr Cyngor Celfyddydau Iwerddon: \u201cMae All In yn fenter unigryw sy\u2019n cael ei harwain gan bobl anabl, a fydd yn chwyldroi hygyrchedd yn y celfyddydau. Rydyn ni\u2019n falch iawn bod y Cyngor Celfyddydau bellach yn bartner sefydlu, a gyda\u2019n gilydd, byddwn yn gwneud yn si\u0175r bod pawb, beth bynnag fo\u2019u hanghenion mynediad, yn gallu llwyr fwynhau\u2019r profiadau diwylliannol cyfoethog sydd gan y DU ac Iwerddon i\u2019w cynnig.\u201d <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd P\u00e1draig Naughton, Cyfarwyddwr Gweithredol Arts &amp; Disability Ireland: \u201cByddai\u2019n wirioneddol drawsnewidiol i gynulleidfaoedd Gwyddelig ag anableddau pe bai modd gwireddu uchelgais y cynllun mynediad All In i efelychu yn Iwerddon yr hyn sydd eisoes wedi\u2019i gyflawni yng Nghymru. Bydd yn arwain at leihau rhwystrau, gan hyrwyddo profiadau cynhwysol, yn ogystal \u00e2 galluogi cynulleidfaoedd Gwyddelig sydd ag anableddau i fanteisio ar ymgysylltiad di-dor a hygyrch mewn lleoliadau ar draws yr ynysoedd hyn, boed hynny ar ynys Iwerddon neu yng Nghymru, Lloegr neu\u2019r Alban\u201d. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>*<\/em><em>Pobl sydd ag o leiaf un cyflwr neu anhawster hirdymor i unrhyw raddau.<\/em> <a href=\"https:\/\/www.cso.ie\/en\/releasesandpublications\/ep\/p-cpsr\/censusofpopulation2022-summaryresults\/healthdisabilitycaringandvolunteering\/\">Iechyd, Anabledd, Gofalu a Gwirfoddoli, Cyfrifiad 2022, Y Swyddfa Ystadegau Ganolog, Llywodraeth Iwerddon.<\/a><\/p>\n<\/div>\n\n\n\t\t\t<div class=\"wp-ace-latest-blog-posts blog_list sidebar\">\n\t\t\t\t<h3>Related posts<\/h3>\n\t\t\t\t<ul class='sidebar_list'>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<li class=\"post_item\">\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/blog\/all-in-unveils-exciting-new-features-with-free-taster-accounts\/\" class='arrow_link'>All In yn datgelu nodweddion newydd gyda chyfrifon blasu am ddim<\/a>\n\t\t\t\t\t\t<\/li>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<li class=\"post_item\">\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/blog\/tu-ol-i-lennir-cynllun-peilot\/\" class='arrow_link'>Tu \u00f4l i lenni\u2019r cynllun peilot<\/a>\n\t\t\t\t\t\t<\/li>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<li class=\"post_item\">\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/blog\/wedii-ddatblygu-gan-bobl-anabl-ar-gyfer-pobl-anabl-ond-beth-maen-ei-olygu\/\" class='arrow_link'>Wedi\u2019i ddatblygu gan bobl anabl ar gyfer pobl anabl \u2013 ond beth mae\u2019n ei olygu?<\/a>\n\t\t\t\t\t\t<\/li>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/ul>\n\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div><div class=\"back_to padding indent bg_white\"><a href=\"https:\/\/allin.online\/cy\/blog\/\" class=\"back_arrow \"><svg xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" width=\"21.222\" height=\"16\"><path fill=\"#472961\" d=\"m.401 7.15 6.8-6.8a1.182 1.182 0 0 1 1.672 1.672L4.081 6.815h15.96a1.182 1.182 0 0 1 0 2.363H4.101l4.771 4.793a1.17 1.17 0 0 1 0 1.672 1.218 1.218 0 0 1-.847.357 1.165 1.165 0 0 1-.847-.357L.357 8.822a1.218 1.218 0 0 1-.356-.845 1.522 1.522 0 0 1 .4-.825Z\" data-name=\"back arrow\"><\/path><\/svg>Back to the blog<\/a><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":8,"featured_media":2328,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"bsl_video":false,"register_block":false,"footnotes":""},"categories":[138],"tags":[],"class_list":["post-2282","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"acf":{"enable_signapse":true},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2282","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2282"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2282\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2792,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2282\/revisions\/2792"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2328"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2282"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2282"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2282"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}