{"id":2987,"date":"2025-06-30T14:14:13","date_gmt":"2025-06-30T14:14:13","guid":{"rendered":"https:\/\/allin.online\/?p=2987"},"modified":"2025-06-30T14:14:13","modified_gmt":"2025-06-30T14:14:13","slug":"wedii-ddatblygu-gan-bobl-anabl-ar-gyfer-pobl-anabl-ond-beth-maen-ei-olygu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/blog\/wedii-ddatblygu-gan-bobl-anabl-ar-gyfer-pobl-anabl-ond-beth-maen-ei-olygu\/","title":{"rendered":"Wedi\u2019i ddatblygu gan bobl anabl ar gyfer pobl anabl \u2013 ond beth mae\u2019n ei olygu?"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-ace-content-blog flex content-content margins two-column bg_white\">\n<div class=\"wp-block-ace-content-blocks border-top\">\n<div class=\"wp-block-ace-intro content-intro\"><p><strong>Mae wedi bod yn bwysig bob amser i ni bod All In yn cael ei ddatblygu gan bobl anabl. Drwy gyflwyno profiad bywyd i\u2019r t\u00eem craidd a chreu cyfleoedd i bobl anabl rannu adborth ar ein datblygiad, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gael ein llywio gan amrywiaeth o wahanol fewnwelediadau a lleisiau. <\/strong><\/p><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-ace-image content-image alt-block\"><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn llawer rhy aml, mae pobl yn gwneud penderfyniadau ar ran pobl anabl, hyd yn oed pan fydd prosiectau a chynnyrch wedi\u2019u dylunio i\u2019w defnyddio gennym ni! Dyna pam mae All In yn cael ei ddatblygu gyda phrofiadau bywyd, sy\u2019n golygu y gallwn fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r rhwystrau i greadigrwydd a diwylliant mewn ffordd ddilys ac effeithiol. <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-ace-image content-image alt-block\"><figure class=\"fill block-image alt-block\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/All-In-Team-Photo.png\" alt=\"Mae t\u00eem All In yn gwenu wrth iddyn nhw sefyll am lun mewn amgylchedd llachar gyda phlanhigion ac addurn modern.\"><div class=\"alt_block\"><button class=\"alt_trigger\" aria-label=\"Show alt text\">Amgen<\/button><div class=\"alt_modal\" id=\"image_block_2955\" role=\"dialog\" aria-label=\"Alt text\" aria-describedby=\"desc_image_block_2955\"><p id=\"desc_image_block_2955\">Mae t\u00eem All In yn gwenu wrth iddyn nhw sefyll am lun mewn amgylchedd llachar gyda phlanhigion ac addurn modern.<\/p><button class=\"close\">Cau <span class=\"screen-reader-text\">disgrifiad delwedd<\/span><\/button><\/div><\/div><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-ace-heading\">Anabledd fel elfen ganolog<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein t\u00eem yn cynnwys pobl \u00e2 llawer o wahanol ofynion a phrofiadau mynediad, sy\u2019n cyfrannu cynrychiolaeth werthfawr i brosiect sy\u2019n agos at ein calonnau. Yn ogystal \u00e2 diddordeb proffesiynol mewn creadigrwydd a diwylliant, mae hefyd yn bwysig ar lefel bersonol; boed hynny\u2019n mwynhau cynyrchiadau theatr, mynychu gigs cerddoriaeth neu ymweld ag eiddo treftadaeth. Trwy uno ein cariad at yr hyn a wnawn gyda phrofiad gwirioneddol o rwystrau, gallwn nodi cwestiynau, heriau a chyfleoedd yn gynt nag y gall person nad yw&#8217;n anabl.  <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-ace-heading\">Profiad ac arbenigedd<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ein camau dechreuol a chynllunio, treuliodd y t\u00eem amser yn gweithio gyda phobl anabl ac ymgynghorwyr anabledd i sicrhau bod eu profiad a&#8217;u harbenigedd wedi&#8217;u hymgorffori yn All In o&#8217;r cychwyn cyntaf. Fe wnaethom hefyd sefydlu <a href=\"https:\/\/allin.online\/cy\/grwp-cynghori\/\">Gr\u0175p Ymgynghorol<\/a> sy&#8217;n cynnwys pobl anabl ag ystod amrywiol o ofynion mynediad ac o wahanol genhedloedd. Ymgynghorir \u00e2&#8217;r gr\u0175p bob cam o&#8217;r ffordd, gyda&#8217;u mewnwelediadau a&#8217;u hadborth yn cael eu defnyddio i lunio cynllun mynediad wedi\u2019i ddatblygu gan yr union bobl y mae wedi&#8217;i gynllunio i&#8217;w cefnogi.  <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-ace-heading\">Dewis cyflenwyr cynhwysol<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cyflenwr da yn gyflenwr cynhwysol, a dyma pam ei bod yn hollbwysig ymgorffori\u2019r disgwyliadau hyn ym mhroses gaffael Cyngor Celfyddydau Lloegr. Fe wnaethom ddewis cyflenwyr yn ofalus a fyddai\u2019n gweithio gyda\u2019r t\u00eem ehangach i ddatblygu a chyflawni gwahanol elfennau\u2019r cynllun mynediad, gan gynnwys safonau hygyrchedd ac offer digidol. <br\/> <br\/>Fe wnaethom ofyn hefyd i gyflenwyr ddangos sut yr oeddynt yn bwriadu cynnwys profiad bywyd yn eu gwaith. Er enghraifft, bydd <a href=\"http:\/\/attitudeiseverything.org.uk\">Attitude is Everything<\/a>, elusen anabledd sy\u2019n ysgrifennu\u2019r safonau hygyrchedd, yn galw am 3000+ o bobl anabl i arwain datblygiad y gwaith hwn. <br\/><br\/>Roeddem wrth ein bodd yn gweld yr ymdrechion hyn yn cael eu cydnabod ym mis Ebrill 2025, pan <a href=\"https:\/\/allin.online\/cy\/blog\/all-in-a-chyngor-celfyddydau-lloegr-wedi-ennill-gwobr-disability-smart\/\">enillodd Cyngor Celfyddydau Lloegr ac All In Wobr Gaffael Disability Smart<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-ace-heading\">Newidiadau cadarnhaol y tu hwnt i All In<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r dull cynhwysol hwn o gaffael hefyd wedi cael effeithiau ehangach y tu hwnt i All In. Mae ein cyflenwyr yn gwneud gwelliannau i&#8217;w harferion cynhwysol eu hunain trwy ei gwneud yn ofynnol iddynt ymrwymo i gyflawni &#8216;Gwerth Cymdeithasol&#8217;. Er enghraifft, mae <a href=\"https:\/\/calvium.com\/\">Calvium<\/a>, ein cyflenwr digidol, wedi ymrwymo yn eu contract i ddarparu cyfleoedd profiad ac ymgysylltu i gyfranogwyr byddar, anabl, a niwrowahanol, ac i ddod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.  <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-ace-heading\">Dyfodol o gynhwysiant<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar hyn o bryd, mae All In yn canolbwyntio ar ddiddymu rhwystrau i greadigrwydd a diwylliant, ond mae cynrychiolaeth pobl anabl yn bwysig ym mhob maes. Drwy osod safon uchelgeisiol yn ein sector, rydym yn gobeithio y bydd sectorau eraill yn edrych atom fel esiampl o\u2019r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cynhwysiant a phrofiad bywyd yn cael eu hymgorffori mewn prosiect o\u2019r cam cychwynnol. <\/p>\n<\/div>\n\n\n\t\t\t<div class=\"wp-ace-latest-blog-posts blog_list sidebar\">\n\t\t\t\t<h3>Related posts<\/h3>\n\t\t\t\t<ul class='sidebar_list'>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<li class=\"post_item\">\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/blog\/all-in-unveils-exciting-new-features-with-free-taster-accounts\/\" class='arrow_link'>All In yn datgelu nodweddion newydd gyda chyfrifon blasu am ddim<\/a>\n\t\t\t\t\t\t<\/li>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<li class=\"post_item\">\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/blog\/tu-ol-i-lennir-cynllun-peilot\/\" class='arrow_link'>Tu \u00f4l i lenni\u2019r cynllun peilot<\/a>\n\t\t\t\t\t\t<\/li>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<li class=\"post_item\">\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/blog\/all-in-a-chyngor-celfyddydau-lloegr-wedi-ennill-gwobr-disability-smart\/\" class='arrow_link'>All In a Chyngor Celfyddydau Lloegr wedi ennill Gwobr Disability Smart<\/a>\n\t\t\t\t\t\t<\/li>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/ul>\n\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div><div class=\"back_to padding indent bg_white\"><a href=\"https:\/\/allin.online\/cy\/blog\/\" class=\"back_arrow \"><svg xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" width=\"21.222\" height=\"16\"><path fill=\"#472961\" d=\"m.401 7.15 6.8-6.8a1.182 1.182 0 0 1 1.672 1.672L4.081 6.815h15.96a1.182 1.182 0 0 1 0 2.363H4.101l4.771 4.793a1.17 1.17 0 0 1 0 1.672 1.218 1.218 0 0 1-.847.357 1.165 1.165 0 0 1-.847-.357L.357 8.822a1.218 1.218 0 0 1-.356-.845 1.522 1.522 0 0 1 .4-.825Z\" data-name=\"back arrow\"><\/path><\/svg>Back to the blog<\/a><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":8,"featured_media":2957,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"bsl_video":false,"register_block":false,"footnotes":""},"categories":[139],"tags":[],"class_list":["post-2987","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy"],"acf":{"enable_signapse":true},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2987","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2987"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2987\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2992,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2987\/revisions\/2992"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2957"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2987"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2987"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/allinstaging-3tc9g.projectbeta.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2987"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}